Cig Coch a Maeth
Mae cig wedi chwarae rhan bwysig yn ein esblygiad ac rydym yn dewis bwyta cig ar gyfer y maeth, y mwynhad, y rhwyddineb a'r cyfleustra gorau posibl.
Gellir disgrifio cig coch fel cig llawn maeth – gan ei fod yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol sy'n helpu i hybu iechyd a lles da.
Manteision Iechyd
Gall cig coch fod yn rhan o ddeiet iach. Mae'n ffynhonnell dda o brotein ac yn darparu fitaminau a mwynau hanfodol, fel haearn a sinc. Er mwyn cael deiet iach a chytbwys, dylai pobl geisio bwyta rhai bwydydd sy'n gyfoethog mewn protein (fel cig coch heb fawr o fraster, pysgod neu gorbys) yn ogystal â phrydau sy’n seiliedig ar garbohydradau startsh (yn enwedig mathau grawn cyflawn neu ffibr uwch), bwyta digon o ffrwythau a llysiau, cael rhai bwydydd llaeth braster is neu ddewisiadau llaeth amgen, a dewis olew a thaeniadau annirlawn yn hytrach na dirlawn (symiau bach).
Porwch drwy'r adnoddau isod i ddysgu am y maetholion sydd mewn cig coch.
Angen rhywfaint o help?
Ebost health@hybucig.cymru
Adnoddau Gweithwyr Iechyd
Adnoddau
Maeth

Mae cig coch yn cynnwys llawer o fwynau sy'n hanfodol er mwyn i'r corff weithredu'n iawn. Darganfyddwch nhw i gyd...
Fitaminau B

Cig, pysgod a bwydydd sy'n deillio o anifeiliaid, megis llaeth, yw'r unig fwydydd sy'n darparu fitamin B12 yn naturiol.
Braster

Er mwyn lleihau nifer yr asidau brasterog dirlawn, mae dewis darnau o gig heb fawr o fraster yn bwysig i'n lles.
Mwynau

Mae cig coch yn cynnwys llawer o fwynau hanfodol. Darganfyddwch y gwahaniaethau a'r effeithiau maen nhw’n eu cael ar ein cyrff.
Protein

Mae cig coch heb fawr o fraster yn cyflenwi'r asidau amino hanfodol sydd eu hangen ar gyfer twf a chynnal a chadw. Y lleiaf o fraster sydd ar y cig, ar ôl coginio, y mwyaf dwys yw’r ffynhonnell o brotein (h.y. y mwyaf o brotein y mae'n ei gynnwys yn ôl pwysau).
Sinc

Mae cig eidion a chig oen yn ffynonellau da o sinc, sy’n angenrheidiol ar gyfer twf celloedd y corff a chymaint mwy.