Canllaw "Eatwell"
Mae'r Canllaw Eatwell yn dangos faint o'r hyn rydyn ni’n ei fwyta'n gyffredinol a ddylai ddod o bob grŵp bwyd i sicrhau deiet iach a chytbwys.
Nid oes angen i chi sicrhau'r cydbwysedd hwn gyda phob pryd bwyd, ond ceisiwch gael y cydbwysedd yn iawn dros ddiwrnod neu wythnos hyd yn oed.
Ffrwythau a Llysiau
Nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau o hyd. Dylent gyfrif am dros draean o'r bwyd rydym yn ei fwyta bob dydd.
Ceisiwch fwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd. Dewiswch o ffrwythau a llysiau ffres, rhewedig, tun, sych neu sudd.
Cofiwch y dylid cyfyngu sudd ffrwythau a smwddis i ddim mwy na chyfanswm cyfunol o 150ml y diwrnod.
Mae ffrwythau a llysiau yn ffynhonnell dda o fitaminau, mwynau a ffibr
Dysgwch fwy am sut i gael eich 5 mewn Diwrnod
Bwydydd Startsh
Dylai bwyd startsh ffurfio ychydig dros draean o'r bwyd rydym yn ei fwyta. Dewiswch fathau grawn cyflawn ffibr uwch, fel pasta gwenith cyfan a reis brown, neu gadewch grwyn ar datws.
Mae yna hefyd fersiynau ffibr uwch o fara gwyn a phasta.
Mae bwydydd startsh yn ffynhonnell dda o egni a dyma brif ffynhonnell amrywiaeth o faetholion yn ein deiet.
Dysgwch fwy am fwydydd startsh
Llaeth a Chynhyrchion llaeth
Mae llaeth, caws, iogwrt a fromage frais yn ffynonellau da o brotein a rhai fitaminau, ac maen nhw hefyd yn ffynhonnell bwysig o galsiwm, sy'n helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf.
Ceisiwch fynd am gynnyrch braster a siwgr is lle bo'n bosibl, fel llaeth braster 1%, caws braster is neu iogwrt braster isel plaen
Dysgwch fwy am laeth a bwydydd llaeth
Protein
Mae'r bwydydd hyn yn ffynonellau da o brotein, fitaminau a mwynau. Mae corbys, fel ffa, pys a ffacbys, yn ddewisiadau amgen da yn lle cig gan eu bod yn is mewn braster ac yn uwch mewn ffibr a phrotein hefyd.
Dewiswch ddarnau o gig heb fawr o fraster a briwgig, a bwyta llai o gig coch a chig wedi'i brosesu fel cig moch, ham a selsig.
Anelwch at o leiaf 2 gyfran o bysgod bob wythnos, a dylai 1 ohonynt fod yn olewog, fel eog neu facrell.
Dysgwch am gorbys, pysgod, wyau a chig.
Braster
Mae brasterau annirlawn yn frasterau iachach ac maen nhw’n cynnwys olew llysiau, had rêp, olewydd a blodau haul.
Cofiwch fod pob math o fraster yn uchel mewn egni a dylid ei fwyta'n gynnil.
Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o fraster yn ein deiet
Siwgr
Mae'r bwydydd hyn yn cynnwys siocled, cacennau, bisgedi, diodydd meddal llawn siwgr, menyn, ymenyn gloyw a hufen iâ.
Nid oes eu hangen yn ein deiet, felly dylid eu bwyta'n llai aml ac mewn symiau llai
Cael awgrymiadau ar dorri i lawr ar siwgr
Dŵr
Mae dŵr, llaeth braster is a diodydd siwgr is neu heb siwgr, gan gynnwys te a choffi, i gyd yn cyfrif.
Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfrif tuag at faint o hylif rydych chi’n ei yfed, ond maen nhw’n cynnwys siwgrau rhydd sy'n gallu niweidio dannedd, felly cyfyngwch y diodydd hyn i gyfanswm cyfunol o 150ml y dydd.
Dysgwch fwy am ddŵr, diodydd a'ch iechyd