Addysg a Iechyd

Mae cig coch heb fawr o fraster yn rhan bwysig o ddiet cytbwys iach. Rydym yma i gefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch. Gall ein hadnoddau gynorthwyo addysgu am fwyd yn y cwricwlwm. Mae ein hadran ryseitiau yn cynnwys ryseitiau anhygoel y gellir eu defnyddio fel rhan o amserlen wersi’r ysgol.

Adnoddau yn rhad ac am ddim i Weithwyr Iechyd Proffesiynol

Os ydych yn gweithio yn yr maes iechyd neu yn rhoi cyngor i fobl am beth i’w fwyta, dewch i ddarganfod cyfres o daflenni ffeithiau sy’n darparu gwybodaeth gywir am y berthynas rhwng cig coch, iechyd a maeth.

Adnoddau Iechyd

Taflenni Ffeithiau am Faeth

Gall Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru chwarae rhan bwysig fel rhan o ddiet cytbwys. Nod ein cyfres o daflenni ffeithiau am ddim yw rhoi’r wybodaeth gywir ddiweddaraf i weithwyr iechyd am y berthynas rhwng cig coch, maeth a ffordd iach o fyw. Mae yna 16 o daflenni ffeithiau yn y gyfres, sy’n ymdrin â phynciau fel: cig coch a haearn, cig coch a rheoli pwysau a chig coch a diet menywod.

Rydym yn eich cynorthwyo gyda...

Bwyd iach, Bywyd iach

Ryseitiau

Gweld ein ryseitiau iach

A wyddoch chi?

Cig coch yw un o’r ffynonellau gorau o haearn. Mae’r haearn mewn cig coch yn haearn hema, sy’n golygu ei fod yn cael ei amsugno’n rhwydd gan y corff a gall fod o gymorth i ryddhau haearn o fwydydd eraill. Mae merched ifanc yn eu harddegau angen 14.8 mg o haearn y dydd.